OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1501 (Cy. 175)
TAI, Cymru
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113). Roedd Rheoliadau 1996 a 1998 yn rhagnodi ffurflen Saesneg a ffurflen Gymraeg ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (am gymorth gan awdurdodau tai lleol tuag at gost gwaith sy’n ofynnol er mwyn darparu cyfleusterau i bersonau anabl mewn anheddau penodedig).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y dirymiadau canlyniadol canlynol mewn perthynas â Chymru:
1. rheoliad 4 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996 (O.S. 1996/3119);
2. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/978);
3. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/809);
4. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1607);
5. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2316);
6. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3470 (Cy.56));
7. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1735 (Cy.119));
8. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2071 (Cy.143));
9. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4006 (Cy.332));
10. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2799 (Cy.267));
11. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254 (Cy.29));
12. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2800 (Cy.239)).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2011 Rhif 1501 (Cy. 175)
TAI, Cymru
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011
Gwnaed 14 Mehefin 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 16 Mehefin 2011
Yn dod i rym 7 Gorffennaf 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996([1]) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]) ac a freinir bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau
Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru)
2011, a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2011.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymiadau
2. Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl isod (sydd â’r cyfeirnodau a restrir yng ngholofn 2) i’r graddau a ddynodir yng ngholofn 3:
Colofn 1
Offeryn a ddirymir |
Colofn 2
Cyfeirnod |
Colofn 3
Graddau’r dirymu |
|
|
|
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996
|
O.S. 1996/2891 |
O ran Cymru, yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996
|
O.S. 1996/3119 |
O ran Cymru, rheoliad 4 |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997
|
O.S. 1997/978 |
O ran Cymru, yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998 |
O.S. 1998/809 |
O ran Cymru, yr offeryn cyfan |
|
|
|
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998
|
O.S. 1998/1113 |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999
|
O.S. 1999/1607 |
O ran Cymru, yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999
|
O.S. 1999/2316 |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999
|
O.S. 1999/3470 (Cy.56) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000
|
O.S. 2000/1735 (Cy.119) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
O.S. 2001/2071 (Cy.143) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001
|
O.S. 2001/4006 (Cy.332) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
O.S. 2002/2799 (Cy.267) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
O.S. 2004/254 (Cy.29) |
Yr offeryn cyfan |
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
O.S. 2006/2800 (Cy.239) |
Yr offeryn cyfan |
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2011
([1]) 1996 p.53. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae’r swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Gwnaed diwygiadau i Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
([2]) 1993 p.38. Roedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b) ac Atodlen 1, yn cyfarwyddo bod y pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron yr oedd y pŵer hwnnw’n arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer o’r Cynulliad hwnnw i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.